Cynllun Tlodi ac Urddas Mislif
Mae ein cynllun yn rhan o fenter ehangach, a luniwyd gan Gyngor Addysg Uwch Cymru (HEFCW), sy'n cydnabod pwysigrwydd sicrhau urddas mislif ar gyfer lles ac iechyd myfyrwyr. Mae hyn yn cynnwys iechyd meddwl a phrofiad myfyrwyr. Rydym am sicrhau urddas mislif i bawb sy'n cael mislif ym Mhrifysgol Bangor a sicrhau nad yw profiad academaidd a phrifysgol cyffredinol myfyrwyr yn cael ei gyfaddawdu gan ddiffyg mynediad at gynhyrchion neu gefnogaeth yn ymwneud â'r mislif.
Beth mae urddas mislif yn ei olygu?
Mae Binti International (2020), yn diffinio urddas mislif fel a ganlyn: sicrhau bod gan bob myfyriwr sy'n cael mislif fynediad at addysg am y mislif, at y cynhyrchion sydd eu hangen arnynt i reoli eu mislif a rhyddid rhag y stigma a thabŵ a gysylltir â'r mislif.
I ddysgu mwy am dlodi mislif, beth mae’n ei olygu a sut y gallwn helpu, darllenwch y canllaw canlynol a luniwyd gan y brand padiau mislif organig Yoppie:
https://yoppie.com/period-poverty
Beth mae tlodi mislif yn ei olygu?
Yn gryno, mae tlodi mislif yn cyfeirio at ddiffyg mynediad at gynhyrchion mislif oherwydd cyfyngiadau ariannol. Gall hynny fod yn sgil amrywiaeth eang o ddigwyddiadau bywyd sy'n cael effaith negyddol ar allu unigolyn i gael gafael ar gynhyrchion mislif i reoli digwyddiad o natur bersonol a rheolaidd yn eu bywydau. Yn fwy cyffredinol, gellir hefyd ei ddiffinio fel diffyg mynediad i doiledau, cyfleusterau golchi dwylo, rheoli gwastraff hylan ac addysg am y mislif.
Nodau'r cynllun hwn
Nid moethusrwydd yw cael cynhyrchion mislif ond anghenraid. Dyna pam mai prif nod y cynllun hwn yw sicrhau mynediad am ddim i fyfyrwyr at gynhyrchion mislif.
Yn ail i hynny, mae gennym 3 nod cenhadaeth yr ydym yn gobeithio eu gwireddu trwy ein hymgyrch a'n digwyddiadau ar y cyfryngau cymdeithasol. Rydym eisiau YSBRYDOLI, ADDYSGU A GRYMUSO myfyrwyr ynghylch pob agwedd ar y mislif fel rhan o'n siwrnai at gyflawni urddas mislif i bawb sy'n cael mislif ym Mhrifysgol Bangor.
Beth mae'r nodau cenhadaeth hyn yn eu golygu a sut y byddwn yn eu cyflawni?
YSBRYDOLI. Rydym am ysbrydoli myfyrwyr i fabwysiadu arferion mislif sy'n fwy cyfeillgar i'r blaned trwy ein Hymgyrch Amgylcheddol. Mae hyn yn cynnwys annog myfyrwyr i roi cynnig ar gynhyrchion y gellir eu hailddefnyddio neu archebu o'n hamrediad o gynhyrchion defnydd sengl sydd yn 100% rhydd o blastig ac sydd ar gael trwy ein cyflenwr i'r cartref Hey Girls.
ADDYSG. Rydym am addysgu myfyrwyr am dlodi mislif, y cyflyrau iechyd sy'n gysylltiedig â'r mislif neu sy'n effeithio ar brofiad pobl ohono, sut i ddefnyddio cynhyrchion y gellir eu hailddefnyddio a sut i gael gwared ar gynhyrchion untro yn gywir. Trwy wneud hynny, rydym yn gobeithio cyrraedd nid yn unig yr holl fyfyrwyr hynny sy'n cael mislif ond pawb arall hefyd. Credwn y bydd hyn yn helpu i leihau'r stigma sy'n gysylltiedig â thrafod y mislif a thlodi mislif.
GRYMUSO. Rydym eisiau grymuso myfyrwyr trwy agor deialog a normaleiddio ymgom am fislif a thlodi mislif. Bob dydd Llun, byddwn yn rhannu profiadau mislif myfyrwyr ar Instagram Undeb Bangor fel rhan o'n Menstruation Monday Quote cyfres. Gobeithiwn y bydd hyn, ynghyd â'r addysg a ddarperir, yn grymuso pawb sy'n cael mislif ac yn caniatáu i fyfyrwyr ddathlu’r gwahaniaethau yn eu profiad o gael y mislif.
Cymerwch olwg ar Instagram a thudalen Facebook Undeb Bangor i ddilyn ein hymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol. Ewch draw i'r dudalen Digwyddiadau i gymryd rhan.
Beth sy'n bwysig i'r cynllun?
Cynwysoldeb
Nod y cynllun yw cynnwys pob myfyriwr, waeth beth fo'u rhywedd. Bydd cynhyrchion yn cael eu gosod ym mhob toiled ar y safle gan gynnwys toiledau niwtral o ran rhywedd a thoiledau dynion. Defnyddir iaith, delweddau, graffeg a lliwiau mor niwtral â phosibl i hyrwyddo'r cynllun peilot a'r ymgyrch.
Dan Arweiniad Myfyrwyr
Mae'r cynllun dan arweiniad myfyrwyr felly rydym eisiau eich sylwadau chi am gynifer o bethau â phosib! Mae'r cynllun peilot hwn ar gyfer myfyrwyr ac felly dylai ei holl natur a'i ddull gweithredu gael ei lywio gan fyfyrwyr. Dyma rai enghreifftiau o'r hyn rydym wedi'i wneud hyd yn hyn i sicrhau hynny:
Lansio arolwg cychwynnol i hel gwybodaeth am y cynhyrchion yr hoffech chi eu gweld ar gael a lle yr hoffech allu cael mynediad atynt. Cadwch lygad am arolwg arall at ddiwedd y cynllun oherwydd bydd arnom angen eich ymateb ynglŷn ag a yw'r cynllun peilot wedi gweithio i chi a sut y gallwn ei wella!
Mae grŵp llywio myfyrwyr yn gweithio'n agos iawn gyda ni ar y project i gynhyrchu syniadau ar gyfer y cynllun ac i hel ymateb am syniadau sydd eisoes ar waith.
Mae Samantha Goad, myfyriwr blwyddyn gyntaf sy'n astudio… wedi ein helpu i ddylunio’r logo!
Amgylcheddol
Rydym wedi gweithio gyda Swyddog Cynaliadwyedd y brifysgol a Chydlynydd Gwastraff y Campws, Gwen Holland, i sicrhau bod y deunyddiau a ddefnyddir yn y cynhyrchion ac yn y pecynnu gan ein cyflenwyr o'r radd flaenaf!
Felly, bydd unrhyw gynhyrchion tafladwy sy'n cael eu cynnig i chi yn ailgylchadwy ac yn 100% heb blastig. Byddwn hefyd yn eich annog i ddefnyddio cynhyrchion y gellir eu hail-ddefnyddio a byddem wrth ein bodd pe bai'r rhai ohonoch sy'n teimlo’n gyffyrddus â hynny yn rhoi cynnig arnynt!
O ystyried bod cymaint ohonom, trwy’r dydd a phob dydd, yn cael y mislif mae’n bwysig symud tuag at gynhyrchion mislif sy’n gyfeillgar â’r blaned!
Cyswllt
Os hoffech gymryd rhan neu os oes gennych syniadau am sut y gallem wella'r cynllun, cysylltwch â Swyddog y Project, Josie Ball: josie.ball@undebbangor.com