Huw Williams, Cynrychiolydd yr Ail Flwyddyn

Helo, Huw dw i a dw i o Gaernarfon. Dw i ar fin cychwyn fy ail flwyddyn yn astudio Hanes. Eleni fi fydd Cynrychiolydd yr Ail Flwyddyn o fewn pwyllgor gwaith UMCB. Dw i'n gobeithio chwarae rhan yn sicrhau bod bywyd cymdeithasol myfyrwyr UMCB y gorau ag y gallai fod yn ogystal a helpu myfyrwyr y flwyddyn gyntaf i setlo i mewn cyn gynted ag sy'n bosib ym mis Medi. Peidiwch ag oedi rhag cysylltu gyda mi hefo unrhyw broblemau ne' gwestiwnau. Gwela i chi ym mis Medi! .